Rhybudd: Rhaid darllen a deall y cyfarwyddiadau canlynol cyn gosod a chynnal y cynnyrch.
Gwarant: Mae Fernox yn gwarantu’r cynnyrch am gyfnod o 5 mlynedd cyn belled â’i fod yn cael ei ddefnyddio’n gywir ac o fewn yr amodau a nodir yn y manylebau technegol a restrir.
Paratoi ar gyfer gosod: Sicrhewch fod y pibellau’n lân. Peidiwch â chaniatáu i falurion, tâp, nac unrhyw elfen solet arall ymgartrefu yn y system.
Gosod
Rhaid gosod Falfiau Gwrthrewi Fernox yn lorweddol yn unig, gyda’r allfa’n wynebu i lawr, er mwyn caniatáu i’r dŵr sydd wedi’i ddraenio lifo allan yn iawn ac yn rhydd o unrhyw rwystrau.
Rhaid gosod Falfiau Gwrthrewi Fernox yn allanol, yn rhan oeraf y system lle mae perygl o rew. Argymhellir gosod Falf Gwrthrewi Fernox ar y ddwy bibell (llif a dychwelyd – Gweler Ffig. 3).
Rhaid eu lleoli hefyd ymhell o ffynonellau gwres a allai effeithio ar eu gweithrediad cywir.
Cadwch bellter o leiaf 10 cm o’r ddaear (Ffig. 1).
Cadwch bellter o leiaf 10 cm rhwng y falfiau gwrthrewi fel nad yw’r falf uwch yn gollwng dŵr ar y falf isaf (Ffig. 2).
Yn unol â’r rheoliadau, rhaid cyfeirio’r dŵr sy’n cael ei ollwng o’r falf gwrthrewi i draf neu bibell gasglu addas.
Argymhellir cadw’r system o dan bwysau ar bob adeg, hyd yn oed wrth ddraenio Falf Gwrthrewi Fernox.
Mewn ardaloedd lle mae’r dŵr yn galed iawn, rhaid sicrhau hidladdiad a thrin dŵr digonol cyn iddo fynd i mewn i’r system, yn unol â’r safonau technegol.
Peidiwch â gwneud unrhyw gysylltiadau trap.
Os yw siâp y bibell gysylltu’n gallu creu effaith trap (fel y dangosir yn Ffig. 4), caiff y draeniad ei atal a ni fydd y diogelwch rhag rhew yn cael ei warantu mwyach.
Peidiwch â defnyddio gwres uwch na 65°C.
Inswleiddio
Mae inswleiddio yn sicrhau bod y system yn gweithio ar effeithlonrwydd gorau posibl.
Wrth ddefnyddio inswleiddiad, gosodwch ef o amgylch y corff yn unig.
PEIDIWCH Â GHWMPASU y torwr gwactod.
Pan osodir y falf yn allanol, rhaid ei diogelu rhag glaw, eira a golau haul uniongyrchol.




















